Gleision yn penodi Richard Holland yn Brif Weithredwr

Robert Norster Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu Robert Norster yn Brif Weithredwr y Rhanbarth ers ei sefydlu yn 2003

Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi mai Richard Holland fydd yn olynu Robert Norster fel Prif Weithredwr y Rhanbarth.

Yn 38 mlwydd oed, mae gan Mr Holland brofiad o weithio yn Celtic Manor, ac yn fwy diweddar bu'n gyfarwyddwr gweithredol ar gyrsiau rasio ceffylau Casgwent a Henffordd.

Bydd e'n dechrau ar ei swydd fis nesa'.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.