Rhybudd am ddwyn tanwydd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio perchnogion cerbydau diwydiannol i fod yn wyliadwrus ar ôl mwy o achosion o ddwyn tanwydd.
Dywedodd yr heddlu y dylai cerbydau o'r fath gael eu cadw o dan do dros nos.
Mae 'na achosion o ddwyn wedi bod o safleoedd ym Mhorthmadog, ardal Caernarfon ac ardal Pen Llŷn, gan gynnwys Pwllheli.
"Os yw'n bosib i bobl gadw eu cerbydau dan do dros nos, fe fyddwn ni'n argymell eu bod yn gwneud hynny," meddai'r Arolygydd Mark Armstrong.
"Fe fydd hi'n fwy anodd i droseddwyr os oes golau a chamerâu cylch cyfyng.
"Rydym hefyd yn gofyn i aelodau'r cyhoedd gysylltu ar frys gyda ni am unrhyw achosion amheus, yn enwedig achosion gorfod ail-lenwi tanciau.
"Yn ystod y dydd fe fydd yr heddlu'n tsiecio a yw'r perchnogion yn gyfreithiol."