Y Drenewydd yn cael eu cosbi

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Mae Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru wedi tynnu tri phwynt o gyfanswm Y Drenewydd fel cosb.

Mewn gwrandawiad o Gomisiwn yr Uwchgynghrair, fe gafwyd y clwb o'r canolbarth yn euog o fod ag aelodau o'r tîm nad oedd yn gymwys i chwarae.

Doedd y chwaraewyr ddim wedi derbyn caniatâd rhyngwladol i chwarae'r gemau yn erbyn Caerfyrddin ar Awst 13 ac Aberystwyth ar Awst 19 eleni.

Roedd gan y clwb yr hawl i apelio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn erbyn y dyfarniad, ond fe ddewison nhw beidio â gwneud hynny.

Deellir fodd bynnag bod clwb Y Drenewydd yn ystyried her gyfreithiol yn erbyn y dyfarniad.

Bydd y gosb o dri phwynt yn dod i rym yn syth.

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Llanelli 18 +25 39
2. Y Seintiau Newydd 18 +20 39
3. Bangor 18 +16 38
4. Castell-nedd 18 +19 33
5. Bala 18 +7 30
6. Prestatyn 18 +4 27
7. Airbus UK 18 -7 19
8.Lido Afant 18 -9 18
9.Port Talbot 18 -10 18
10. Aberystwyth 18 -12 14
11. Y Drenewydd* 18 -26 13
12. Caerfyrddin 18 -27 10
* = Y Drenewydd wedi colli 3 phwynt am fod â chwaraewyr anghymwys mewn dwy gêm.

Rhagfyr 6, 2011.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.