Arian i wella mynedfa gorsafoedd trenau Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd rhai o orsafoedd Cymru yn cael arian er mwyn gwella cyfleusterau.
Cyhoeddodd Adran Trafnidiaeth San Steffan y byddai £37.5 miliwn yng Nghymru a Lloegr ar gyfer gwella adnoddau, gan gynnwys lifftiau, rampiau, 'twmpathau' a gwell mynediad i doiledau.
Ymhlith y gorsafoedd mae Machynlleth, Y Waun, Llandâf a Radur.
Mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben yn yr holl orsafoedd erbyn mis Mawrth 2014.
Bydd gorsaf Radur yn derbyn £1 miliwn ar gyfer pont droed newydd a thri lifft tra bydd yr orsaf ym Machynlleth yn derbyn yr un faint o arian ar gyfer dau lifft a phont droed newydd.
"Dydi'r daith trên ddim yn cychwyn a gorffen wrth ddrysau'r cerbyd," meddai Norman Baker, y Gweinidog Rheilffyrdd.
"I nifer, yr oedrannus, yr anabl neu rieni gyda phram, cyrraedd yr orsaf a'r platfform yw rhan anodda'r daith.
"Er gwaetha'r angen i leihau'r diffyg ariannol, rydym yn ymrwymedig i wella mynedfa i orsafoedd fydd yn gwella ac yn newid bywydau'r teithwyr."
Mae'r arian sydd wedi ei glustnodi bron yn ddwbl yr arian nodwyd yn wreiddiol ar gyfer y prosiect £17 miliwn.
Dywedodd Mr Baker hefyd eu bod yn rhoi £2 miliwn ychwanegol y flwyddyn at y £5 miliwn i'r cwmnïau trenau ar gyfer mân brosiectau.
"Mae'r £57 miliwn yn cael ei roi yn gynt na'r disgwyl er mwyn i Network Rail orffen rhaglen caniatáu mynediad i bawb."
Bydd £5,000,000 yn cael ei wario ar wella mynedfa i 100 o blatformau ond does 'na ddim mwy o fanylion.