Gwahardd ysmygu ar feysydd chwarae a thir ysbytai?

Llaw yn dal sigarét Image copyright AFP
Image caption Mae Llywodraeth Cymru eisiau gostwng nifer yr ysmygwyr yng Nghymru i 16% erbyn 2020

Gallai pobl gael eu gwahardd rhag ysmygu mewn meysydd chwarae ac ar dir ysbytai wrth i Lywodraeth Cymru barhau â'u hymgyrch i geisio lleihau mwg sigarét yng Nghymru.

Ymhlith y cynlluniau mae mesurau i atal pobl rhag ysmygu ar gaeau ysgol a chwaraeon ac mewn ceir os ydyn nhw'n cludo plant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau atal pobl rhag anadlu mwg "ail-law". Yn ôl Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, mae angen gweithredu "ar frys".

Mae Aelodau Cynulliad yn trafod y cynlluniau ddydd Mawrth.

Mae'r cynllun rheolaeth tybaco newydd yn rhan o ymgyrch gyffredinol i geisio gostwng nifer yr ysmygwyr yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae chwarter y boblogaeth yn ysmygu ond mae'r llywodraeth yn gobeithio cwtogi hynny i 16% erbyn 2020.

Byddai hynny'n golygu bod dros 140,000 yn rhoi'r gorau i'r arfer dros y naw mlynedd nesa'.

'Dulliau newydd'

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, ei bod eisiau parhau â'r gwaith a ddechreuwyd trwy gyflwyno'r gwaharddiad mewn mannau cyhoeddus yn 2007.

"Fel y gwnaeth Cymru gymryd y cam dewr o greu amgylcheddau di-fwg mewn mannau cyhoeddus, rydym yn sylweddoli ei bod hi'n amser edrych ar ddulliau newydd i amddiffyn plant ymhellach rhag mwg ail-law," meddai'r gweinidog.

O dan y cynlluniau, byddai Llywodraeth Cymru yn:

  • Gweithio gyda chynghorau i gyflwyno polisïau di-fwg ar gyfer meysydd chwarae;
  • Annog ysbytai i fynd yn ddi-fwg. Yn benodol, mae'r llywodraeth eisiau atal pobl rhag dod at ei gilydd i ysmygu ger mynedfeydd, "lle gallai lefelau mwg fod yn uchel";
  • Gwahardd ysmygu mewn mannau ble byddai plant yn debygol o ymgynnull, fel caeau ysgol a chwaraeon;
  • Atgyfnerthu addewid y Prif Weinidog Carwyn Jones i ystyried gwahardd ysmygu mewn ceir pan fo plant yn cael eu cludo, os bydd ymgyrch dair-blynedd yn methu â lleihau lefelau;
  • Cyflwyno hysbysiadau cosb penodol i fanwerthwyr sy'n cael eu dal yn gwerthu sigaréts i blant dan 18;
  • Gwella gwasanaethau i rai sy'n rhoi'r gorau i ysmygu.

Dywedodd y llywodraeth fod 'na bwerau o dan y Ddeddf Iechyd 2006 i atal ysmygu mewn mannau cyhoeddus sydd ddim yn gaeëdig, cyn belled â bod modd dangos fod nifer sylweddol o bobl mewn perygl sylweddol.

Yn ôl adroddiad i ACau, nod y llywodraeth yn y pen draw yw gwneud ysmygu yn arfer mwy annerbyniol yn gymdeithasol er mwyn annog pobl i beidio ag ysmygu, gan ostwng y lefelau mwg ail-law.

'Ar frys'

Dywedodd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fod angen gweithredu "ar frys" i daclo ysmygu, sy'n lladd 5,600 o bobl yng Nghymru pob blwyddyn ac yn costio £386m i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - 7% o'r cyllid.

"Beth ydyn ni wir ei angen yw gwir ymdeimlad o frys ynghylch taclo ysmygu," meddai Chris Mulholland, Pennaeth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru.

"Mae'r cynllun yn addo hwb i wasanaethau i rai sy'n rhoi gorau i ysmygu, ond 'da ni angen gweithredu'n gyflym.

"Ac mae'r gwasanaethau hyn, sy'n helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi, angen bod yn ganolog i'r gwasanaeth iechyd, nid ar y cyrion.

"Bydd angen i bron 300 o bobl roi'r gorau iddi bob wythnos am y naw mlynedd nesa' os ydyn ni am weld nifer yr ysmygwyr yn gostwng i 16%."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.