Fferm bysgod Selonda UK ar Ynys Môn 'mewn trafferthion'

adeilad fferm bysgod Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Sefydliwyd y fferm bysgod ar Ynys Môn yn 2002

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod fferm bysgod arloesol ar Ynys Môn yn wynebu trafferthion.

Y gred yw bod safle Selonda UK - cwmni sydd dan berchnogaeth Roegaidd - mewn trafferthion ariannol.

Mae'r fferm ym Mhenmon, ger Biwmares, yn cynhyrchu 1,000 tunnell o ddraenogiaid y môr.

Roedd pryderon wedi'u mynegi ar y we ynglŷn â dyfodol y safle, sydd â dwy filiwn o bysgod yno.

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod yn monitro'r sefyllfa, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn ymwybodol o'r trafferthion yn Selonda UK ac rydym yn gweithio gyda'r cwmni i ddeall eu cynlluniau ar gyfer cwrdd â'r gofynion amgylcheddol."

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod hwythau yn "ymwybodol o'r trafferthion ar safle Selonda UK yng ngogledd Cymru."

Cafodd y fferm bysgod ei sefydlu ar Ynys Môn yn 2002.

Y llynedd roedd pobl oedd yn byw gerllaw'r safle wedi cwyno am y sŵn oedd yn dod o eneraduron ar y fferm.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.