Cymryd arian gan y difreintiedig

James a Miriam Beard Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Plediodd Miriam Beard (yn y llun gyda'i gŵr James) yn euog i dwyll

Fe wnaeth Miriam Beard odro mwy na £50,000 o elusen oedd yn ceisio helpu un o gymunedau tlotaf Cymru.

Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011 - sy'n rhannu'r wlad i 1,896 ardal fechan - mae Plas Madoc yn rhif 24 ymhlith y llefydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Roedd llawer yn credu y byddai arian Cymunedau'n Gyntaf yn gwella bywyd pobl yr ystad, yn enwedig y plant.

Dywedodd un: "Mae hi wedi dwyn oddi wrth bob plentyn yma. Mae hi'n haeddu cael ei charcharu am flynyddoedd."

Cafodd Beard ei phenodi yn gydlynydd yr elusen yn 2003 ar ôl gweithio fel cynghorwr hawliau lles ariannol i gyngor Wrecsam.

Ond roedd hi wedi camarwain ei chyflogwyr o'r cychwyn cyntaf.

Celwydd

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei bod wedi dweud celwydd am ei gorffennol gan honni ei bod 10 mlynedd yn iau nag oedd hi.

Roedd hi'n honni ei bod wedi gadael y brifysgol ac yna wedi mynd syth i weithio ar ôl cael graddau lefel TGAU a lefel A.

Mewn gwirionedd roedd hi i fod sefyll chwe arholiad - wedi methu tri a heb sefyll y tri arall ac roedd erioed wedi bod i'r brifysgol.

Roedd hi hefyd wedi cael ei dyfarnu'n euog o droseddau o anonestrwydd yn y 1970au ac ym 1979 cafodd ei charcharu am gynllwynio i dwyllo.

Ond ei throsedd mwyaf difrifol, yn ôl nifer o drigolion Plas Madoc, oedd dwyn arian allai fod wedi gwella bywydau plant lleol.

Bwriad yr elusen oedd darparu gweithgareddau i roi hwb i ansawdd bywyd trigolion lleol.

83%

Mae ystadegau llywodraeth Cymru ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf (yn dyddio o 2001) yn dweud bod bron i 83% o bobl Plas Madoc yn byw mewn ty cyngor neu mewn tai ar rent gan landlord cymdeithasol cofrestredig.

Roedd gan bron i 54% o gartrefi un neu fwy o bobl gyda "salwch hir-dymor".

Image caption Plas Madoc yw'r safle 24ain mwyaf difreintiedig yng Nghymru

Dywedodd Tracey Pritchard, sydd yn gweithio yn Swyddfa'r Post ym Mhlas Madoc: "Mae llawer o bobl yn ddig iawn. Mae pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu twyllo.

"Roedd arfer bod clwb i'r ieuenctid yma, ond mae hynny wedi mynd.

"Roedd y clwb yn rywle i'r plant fynd gyda'r nos, o leiaf, ond bellach does dim byd yma.

"Mae yna ganolfan hamdden ond dwi ddim yn meddwl gall hanner y bobl yma fforddio ei defnyddio."

'Haeddu '

Dywedodd Laura Hughes, 32 oed, sy'n byw ar y stad ac yn ddi-waith ac yn gofalu am ei merch awtistig: "Mae hi wedi dwyn oddi wrth bob plentyn yma.

"Roedd fy merch yn mynd at grŵp o'r enw Reflections, ond bu raid iddyn nhw roi'r gorau iddi. Roedd y plant yn chwarae a dysgu yno.

"Mae hi'n haeddu cael ei charcharu am flynyddoedd, mae pawb yn teimlo'r un fath.

"Dydych chi ddim yn dwyn £50,000 o lefydd fel hyn, does gan bobl dim arian.

Dywedodd Nick Griffiths, 33, sydd yn ddi-waith: "Does gan neb yma unhryw arian.

"Roedd yr arian yna i fod i helpu pobl. Pwy fyddai'n gwneud rhywbeth fel hyn."

'Anghredadwy'

Dywedodd Louise Hampson, 32, sydd yn fam i dri: "Roedd yn anghredadwy bod hi heb cael ei dal am gymaint o amser. Mae pobl wedi ffieiddio.

"Byddai'r arian yna wedi talu am gymaint o weithgareddau ar gyfer plant lleol - pethau iddynt wneud yn ystod gwyliau ysgol."

Straeon perthnasol