Arddangos treftadaeth y gogledd

Amgueddfa Wrecsam
Image caption Amgueddfa Wrecsam yw un o'r rhai sydd yn cymryd rhan

Mae amgueddfeydd ar draws gogledd ddwyrain Cymru wedi ymuno gyda'i gilydd mewn prosiect i sicrhau bod treftadaeth yr ardal â chynrychiolaeth dda yng Nghasgliad y Werin Cymru.

Wedi'i lansio flwyddyn yn ôl mae Casgliad y Werin yn gasgliad arlein o luniau a deunydd hanesyddol o bob rhan o Gymru.

Mae prosiect Gogledd Ddwyrain Cymru yn gobeithio ychwanegu nifer sylweddol o eitemau at Gasgliad y Bobl.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar nifer o wahanol themâu sy'n berthnasol i'r ardal.

"Byddwn yn creu 10 casgliad thematig ac yn lanlwytho pethau o arwyddocâd hanesyddol i'r themâu yna," dywedodd Samantha Colclough, un o gyd-lynwyr y prosiect.

Ymhlith y themâu a ddewiswyd i ddechrau yw'r Rhufeiniaid; Mwyngloddio a Chwarelydda; Eisteddfodau Cenedlaethol; Crochendai; Bragdai; Ffermio ac Amaethyddiaeth; a Dyfrbont Pontcysyllte.

"Byddwn yn cysylltu â chlwbiau hanes lleol i weld a oes ganddyn nhw unrhyw beth i gynnig.

Image copyright Other
Image caption Ffermio ac Amaethyddiaeth yw un o themâu'r brosiect

"Byddwn hefyd yn cynnig hyfforddiant fel eu bod yn dysgu sut i lanlwytho pethau i'r casgliad eu hunain a helpu i adrodd gwahanol storiau gogledd ddwyrain Cymru," dywedodd Ms Colclough.

Bydd eitemau o amgueddfeydd Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Sir Wrecsam hefyd yn cael eu hychwanegu i'r casgliad.

Mae amgueddfeydd Cymru yn dal tua thair miliwn o arteffactau ar hyn o bryd, ond does ganddynt ond lle i arddangos ychydig o'r rhain ar unrhyw un adeg.

Bydd y gweithdai i grwpiau lleol yn cael eu cynnal ym mis Chwefror ac mae'r prosiect yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2012.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.