Swyddi newydd i Ben-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd hyd at 80 o swyddi yn cael eu creu ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth i ffatri sy'n cynhyrchu deunydd meddygol gau yn Lloegr.
Mae cwmni Biomet am gau eu ffatri sy'n cyflogi 220 o bobl yn Dorcan, ger Swindon.
Dywed y cwmni y byddant yn canolbwyntio ar eu ffatri yn ne Cymru.
Mae disgwyl i'r newidiadau ddechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesa.
'annog gweithwyr'
"Bydd yr holl broses o symud y gwaith i Gymru yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Mae'r cwmni yn cynhyrchu darnau ffug o'r corff, fel clun a phengliniau.
Bydd uned ymchwil ac adain masnachu'r cwmni yn parhau yn Swindon.
Yn ôl y cwmni mai disgwyl i'r newidiadau olygu 80 o swyddi newydd ym Mhen-y-bont.
"Byddwn yn annog gweithwyr Swindon i wneud cais am y swyddi newydd," meddai'r llefarydd.