Arwr Tawel 2011 yw Gareth Hughes
- Cyhoeddwyd

Gareth Hughes o Glwb Golff y Rhondda yw enillydd Arwr Tawel BBC Cymru 2011.
Mae Gareth wedi datblygu Academi Golff Y Rhondda gan gynnig cyfleodd i fechgyn a merched hyd at 18 oed.
Bellach mae mwy na 60 o fechgyn a merched yn cael eu hyfforddi bob penwythnos.
Yn ogystal mae nifer o blant o ysgolion cynradd ac uwchradd yr ardal yn cymryd rhan yn sesiynau hyfforddi bob wythnos.
2003
Mae Gareth, 26 oed, wedi bod yn chwarae golff a hyrwyddo'r gamp ers ei fod yn 9 oed ac ef yw'r Capten Clwb ieuengaf ym Mhrydain.
Mae'r gwobrau wedi eu cynnal yn flynyddol ers 2003.
Maen nhw'n cydnabod pobl arbennig sy'n ymroi eu bywydau i hybu chwaraeon o fewn eu cymuned, yn derbyn dim clod dim ond helpu eraill i gymryd rhan a mwynhau eu camp.
Mae'r chwilio am yr Arwyr Tawel yn cael ei gynnal ar draws y DU.
Fe fydd yna enillwyr ym mhob un o'r 12 rhanbarth yn Lloegr ac enillwyr yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd Gareth yn cystadlu yn erbyn enillwyr y 12 rhanbarth yn Lloegr ynghyd ag enillwyr yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer y brif wobr gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod digwyddiad Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn Salford ar nos Iau, Rhagfyr 22, yn fyw ar BBC One.
'Cynwysedig'
Dywedodd y person a enwebodd Gareth, ei fod yn "ysbrydoliaeth i'r gêm ac i bawb sydd yn ei adnabod".
Arwyddair Gareth yw "y dylai golff fod yn gynwysedig nid anghynhwysol".
Cyflwynwyd y wobr i Gareth o flaen ei deulu a ffrindiau yng Nghlwb Golff Y Rhondda yn fyw ar raglen Wales Today nos Fercher gan gyflwynydd y rhaglen, Claire Summers.
Nid oedd Gareth yn gwybod ei fod wedi ennill y wobr tan y funud olaf.
'Profiad gwych'
"Roedd yn brofiad gwych a llwyddais i ddynwared Cilla Black gan synnu Gareth," meddai Claire Summers.
"Roedd hi'n wych i gyfarfod â rhywun oedd yn haeddu'r wobr am ei fod yn gwneud yr holl waith ar gyfer y clwb a'r bobl ifanc heb ennill ceiniog.
"Mae e'n cael gwefr wrth weld y plant yn datblygu fel pobl yn ogystal â gwella fel golffwyr.
"Mae e'n meddwl bod pawb yn Y Rhondda yn gallu cyflawni unrhyw beth.
"Mae e'n ddyn ifanc arbennig iawn."
Dros naw mlynedd o gynnal y gystadleuaeth, mae nifer o bobl ysbrydoledig wedi ennill gwobr. Ymhlith yr enillwyr o Gymru mae:
2007 - Andrew Grey. Sefydlodd Glwb Gymnasteg Aberdaugleddau 27 mlynedd yn ôl, a hefyd yn ymwneud â thîm rygbi dan-11 Sir Benfro.
2008 - Cliff Williams. Helpu gyda dau dîm dynion hŷn, tîm merched, a goruchwylio dros 100 o chwaraewyr iau yng Nghlwb Rygbi Pontyclun.
2009 - Arthur Jones. Ysgrifennydd cynghreiriau pêl-droed iau a hŷn yn Sir Gaerfyrddin ac wedi bod yn ymwneud â phêl-droed yn y sir fel chwaraewr, rheolwr ac ysgrifennydd clwb am bron i 60 o flynyddoedd.
2010 -Lisa Jones - hyfforddwr tîm pêl-droed bechgyn a merched Penydarren ym Merthyr Tudful - oedd enillydd Arwr Tawel Cymru yn 2010.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011