Heddlu'n adfer carreg fedd

Carreg fedd y Cwnstabl Davies Image copyright Other
Image caption Cafodd y cwnstabl ei gladdu yn Eglwys Sant Nicholas yn Nhrefaldwyn

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi adfer carreg fedd plismon fu farw ar ôl ffrwgwd wrth geisio arestio dyn yn 1903.

Bu farw'r Cwnstabl William Davies yn 43 oed pan gafodd drawiad ar y galon.

Cafodd ei gladdu yn Eglwys Sant Nicholas yn Nhrefaldwyn, Powys.

Roedd y garreg fedd wedi dirywio gyda threigl amser ond y llynedd fe glywodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ian Arundale, am yr hanes.

'Aberth eithaf'

Roedd yn credu y dylid cadw'r bedd mewn cyflwr da iawn oherwydd aberth eithaf Mr Davies.

Penderfynodd Cymdeithas Amgueddfa Heddlu Dyfed Powys fynd ati i adfer y garreg fedd i'w hen ogoniant.

Rhoddwyd gwahoddiad i'r teulu helpu wrth ymchwilio i'r hanes.

Image copyright Other
Image caption Roedd y garreg fedd wedi dirywio dros y blynyddoedd

Cafodd y garreg fedd ei hailgysegru yn ystod gwasanaeth dan arweiniad y Parchedig Mike Powell.

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn y gwasanaeth oedd Mr Arundale, Maer Trefaldwyn, Cerys Thomas, a Michael a David Davies, gor-wyrion PC Davies.

Dywedodd Mr Arundale: "Mae plismyn sy'n marw ar ddyletswydd yn haeddu diolch arbennig am eu haberth.

"Fe ddylai'r lefel hon o ymroddiad gael ei chydnabod."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.