E-byst ffug: Dathlu'r Nadolig yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp ym Mangor wedi ail-drefnu digwyddiad Nadolig yng nghanol y ddinas wedi i nifer o alwadau ffug ganslo atyniadau.
Honnodd Grŵp Cymunedol Pobl Bangor nad oedd ganddyn nhw syniad pwy oedd wedi anfon y galwadau a'r e-byst ffug.
Bydd eu "Diwrnod Dathlu" ar Ragfyr 10 yn cynnwys atyniadau fel ogof Siôn Corn, ffair, adloniant byw a llawr sglefrio.
Dywedodd y grŵp eu bod wedi rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru.
'Tanseilio'
"Mae rhywun wedi ceisio tanseilio'r digwyddiad a honni mod i wedi canslo'r atyniadau," meddai'r cadeirydd, Nigel Pickavance.
"Pan ymatebodd rhai yn holi am fanylion y canslo fe gawson nhw e-byst sarhaus oddi wrth rywun.
"Yn ogystal cafodd un o'r atyniadau alwad ffôn oddi wrth 'fy mrawd'."
Dywedodd Mr Pickavance fod y grŵp wedi darganfod bod rhywun yn gwneud galwadau ffug pan gyfarfu un o'u gwirfoddolwyr â pherchennog un o'r atyniadau ym Mangor.
'Ymddiheuro'
"Mi wnes i ymddiheuro i berchnogion yr holl atyniadau ond dywedon nhw eu bod wedi cael eu bwcio ar gyfer digwyddiadau eraill.
"Ond am fod gennym ni berthynas wych cyn i hyn ddigwydd llwyddon nhw i sicrhau bod yr atyniadau ar gael.
"Rwan dwi'n defnyddio cyfrinair cyn siarad â threfnwyr yr atyniadau."
Dywedodd fod y grŵp yn edrych ymlaen at y digwyddiad ddydd Sadwrn.
"Rydyn ni am gynnal digwyddiad hudol i blant Bangor oherwydd nid yw pobl yn gallu fforddio teithio'n bell y Nadolig hwn," meddai.