Carcharu gyrrwr am yfed a gyrru

Llys y Goron Yr Wyddgrug Image copyright bbc
Image caption Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug cafodd dynes 40 oed ei charcharu am yfed a gyrru.

Roedd Collette Weale o Fanceinion wedi yfed dros dair gwaith y lefel cyfreithlon pan gollodd reolaeth o'i char rhwng Bodfari ac Afonwen yn Sir y Fflint ar Hydref 17.

Clywodd y llys fod gyrrwr car arall Jacob Gallagher, 19 oed, wedi ei llusgo o'i char cyn iddo gael ei losgi'n ulw.

Roedd hi wedi teithio o Fanceinion i ymweld â'i thad ym Modfari.

Clywodd y llys iddi ymosod ar blismones a phoeri yn ei hwyneb.

Cyn iddi gael ei dedfrydu fe wnaeth ddiolch yn gyhoeddus i Mr Gallagher am achub ei bywyd.

Cafodd ei charcharu am 70 diwrnod a'i gwahardd rhag gyrru am dair blynedd.