Perfformiad cyntaf carol Nadolig

John Hosking Image copyright Other
Image caption Bydd carol newydd yn cael ei berfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf

Cafodd carol Nadolig sydd wedi ei ysgrifennu a'i gyfansoddi gan organydd cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Llanelwy ei berfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf.

Ysgrifennwyd "In a Lowly Stable's Manger" ar gyfer Cymdeithas Gorawl Llanelwy gan John Hosking.

Dywedodd Mr Hosking: "Daeth yr alaw ar gyfer y carol i mi'n sydyn yn eithaf hwyr un noson ac mi wnes i ei sgriblo lawr - yna daeth dilema oherwydd roedd gen i alaw ond dim geiriau ac yn ddelfrydol byddai'r sefyllfa y ffordd arall.

"Ar ôl gweithio ar yr alaw, dechreuodd rai geiriau ddod i'm meddwl ac roeddwn yn meddwl y byddwn i'n gwneud y carol yn daith drwy stori'r Nadolig, yn dechrau gyda'r daith i'r stabl ac yn arwain i fyny at daith y dynion doeth."

Cafodd y carol ei berfformio yn ystod cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy am 7.30pm ddydd Sadwrn.

Rhufeiniaid

Mae cyfle i brofi traddodiadau Nadolig lawer hynach yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion dros y penwythnos.

Bydd gweithgareddau a gwybodaeth am sut oedd y Rhufeiniaid yn dathlu gŵyl Saturnalia, cyfnod o wledda, rhoi anrhegion, chwarae gemau a hwyl.

Dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru: "Amser i roi rhoddion i ffrindiau a theulu oedd Saturnalia, fel y Nadolig heddiw, a bydd yr Amgueddfa yn llawn hwyl yr ŵyl, o stondinau crefft i annibendod creadigol!"

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.