Wyddfa: Gwarant i arestio gyrrwr

Cerbyd ar Yr Wyddfa Image copyright BBC news grab
Image caption Cafodd y Vauxhall Frontera ei yrru i gopa'r Wyddfa ddwywaith

Mae ynadon wedi cyflwyno gwarant i arestio dyn sydd wedi ei gyhuddo o yrru'n beryglus ar Yr Wyddfa.

Roedd Craig Williams, 39 oed o Bridgend Road, Cheltenham, i fod i ymddangos gerbron ynadon yng Nghaernarfon ddydd Gwener, ond ni wnaeth ymddangos.

Eglurodd ei gyfreithiwr, Carla Forfar, ei fod ar fudd-daliadau, ac nad oedd ganddo'r arian i deithio 160 milltir i Gaernarfon.

Ychwanegodd ei fod wedi mynd i orsaf heddlu Cheltenham gan ddisgwyl y byddai gwarant yn cael ei chyhoeddi, er mwyn i'r heddlu ei gludo i'r llys.

Mae Williams yn wynebu dau gyhuddiad o yrru'n beryglus ar gopa uchaf Cymru a Lloegr ar ddau achlysur ym mis Medi.

Mae'n gwadu'r cyhuddiadau, ac fe fydd yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron.

Dywedodd Mrs Forfar y byddai'r gwrandawiad ynadon wedi para pum munud. "Dim ond dod yma i gael ei yrru i Lys y Goron y byddai," meddai.

Gofynnodd yr erlynydd Richard Edwards am warant i'w arestio. Dywedodd cadeirydd yr ynadon "nad oedd ganddynt ddewis yn anffodus".

Straeon perthnasol