Ymchwilio i lofruddiaeth

Cafodd yr heddlu eu galw yn oriau mân y bore i ardal Trem yr Wyddfa Image copyright BBC news online
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw yn oriau mân y bore i ardal Trem yr Wyddfa

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth ym Mhenygroes, Gwynedd.

Cafodd yr heddlu eu galw yn oriau mân y bore i ardal Trem yr Wyddfa.

Cafodd menyw ei chludo i'r ysbyty, ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae hi wedi ei henwi'n lleol fel Emma Jones, a chredir ei bod yn ei thridegau cynar.

Mae tri o bobl wedi'u harestio ac maen nhw'n cael eu holi ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.