Tlws FA Lloegr

Casnewydd 0-0 Forest Green

Casnewydd sydd â'r unig obaith o blith clybiau Cymru i barhau yn Nhlws FA Lloegr - mi fyddan nhw'n ail-chwarae yn erbyn Forest Green nos Fawrth.

Prin oedd y cyfleoedd mewn gêm ddifflach.

Gallai Danny Rose fod wedi sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd ond fe beniodd heibio'r gôl, a chafodd Sam Foley ei anfon bant o'r cae.

Wrecsam 1-2 Hinckley United

Sam Belcher ac Andre Gray sgoriodd ym mhob hanner i Hinckley wrth i Wrecsam adael y gystadleuaeth.

Roedd rheolwr Wrecsam wedi gwneud naw newid i'r tîm, ac fe aethon nhw ar ei hôl hi yn erbyn y rhediad y chwarae ar ôl 24 munud gyda gôl Belcher.

Roedd y tîm cartref yn gyfartal ddeg munud wedi'r egwyl gyda gôl Glen Little wedi gwaith da Chris Westwood.

Ond sicrhaodd Hinckley y fuddugoliaeth gydag 13 munud yn weddill gydag ergyd Gray o 12 llath.