Emma Jones wedi cael ei thrywanu

Emma Louise Jones Image copyright Other
Image caption Roedd Emma Louise Jones yn fam ac yn 31 oed

Daeth cadarnhad swyddogol bod y fenyw gafodd ei lladd ym Mhenygroes, Gwynedd yn oriau mân fore Sadwrn wedi cael ei thrywanu.

Roedd Emma Louise Jones yn fam 31 oed, ac yn dod o Benygroes.

Mae tri o bobl - dwy fenyw a dyn - yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad yn Nhrem yr Wyddfa.

Mae cannoedd o deyrngedau i Emma Bach, fel yr oedd hi'n cael ei hadnabod yn lleol, ar wefannau cymdeithasol, drannoeth ei llofruddiaeth.

Treuliodd arbenigwyr fforensig ddydd Sadwrn yn archwilio bloc o fflatiau yn Nhrem yr Wyddfa, lle credir yr oedd Emma Jones yn byw.

Yn ôl rhai o'r trigolion ar stad Trem yr Wyddfa, cawsant eu deffro am tua hanner awr wedi dau'r bore gan sŵn hofrennydd yr heddlu.

Digwyddodd y llofruddiaeth pan oedd Penygroes ar fin dathlu Ffair Nadolig ddydd Sadwrn, ac roedd y paratoadau ar gyfer y ffair wedi cael eu ffilmio ar gyfer y gyfres Mel a Nia ar S4C.

Penderfynwyd bwrw ymlaen â'r ffair, er nad oedd nifer o'r trigolion mewn hwyliau i ddathlu.

'Sioc'

Dywedodd y cynghorydd cymunedol Elwyn Jones Griffith: "Mae'r pentref cyfan mewn sioc.

Image copyright BBC news online
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw yn oriau mân fore Sadwrn i ardal Trem yr Wyddfa

"Does dim byd fel hyn wedi digwydd yma o'r blaen," meddai.

Yn ôl un o'r trigolion lleol, Jean Hefina Owen: "Mae hyn yn rhywbeth ofnadwy i ddigwydd mewn pentref fel hwn.

"Rydym yn adnabod y ddau deulu".

Ychwanegodd Mrs Owen bod Ms Jones yn berson ifanc "hyfryd".

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.