Cwmni yn creu swyddi newydd yn Y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Bydd swyddi newydd yn cael eu creu yn y canolbarth wrth i gwmni General Motors archebu gwerth £12 miliwn o nwyddau.
Cwmni Cobra UK yn Y Trallwng sydd wedi sicrhau cytundeb i ddarparu gorchuddion ar gyfer cistiau ceir.
Mae'r archeb yn golygu y bydd 49 o swyddi yn cael eu creu gan gynyddu'r gweithlu i tua 100.
Mae GM yn cynhyrchu Vauxhall Astra yn eu ffatri yn Sir Caer.
Ym mis Mehefin fe lwyddodd Cobra UK i sicrhau archeb gwerth £56 miliwn i allforio cydrannau i Wlad Thai, Brasil ac Indonesia.
Yn ogystal â GM, mae'r cwmni hefyd yn cyflenwi cydrannau i Bentley, Volvo ac Audi.
Maen nhw hefyd yn cyflenwi'r diwydiant awyrennau.
Daw'r llwyddiant wedi cyfnod anodd i'r cwmni.
Yn 2005 fe wnaeth archebion y cwmni ostwng 90% gyda chwymp MG Rover.
Cynhyrchu nwyddau
Dywedodd Gary Seale, rheolwr gyfarwyddwr Cobra UK, eu bod wrth eu bodd gyda'r archeb diweddara.
"Rydym wedi dangos ein bod yn cynhyrchu nwyddau o safon uchel sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant ceir.
"Mae hwn yn hwb mawr i Gymru."
Cafodd y newyddion ei groesawu gan Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies.
"Mae'n newyddion da fod Vauxhall UK wedi penderfynu rhoi cytundeb mor bwysig i gwmni yng Nghymru.
"Mae anrheg Nadolig da iawn i'r Trallwng."
Straeon perthnasol
- 14 Mehefin 2011
- 11 Ionawr 2006