Gwobr am gynllunio cartref arbennig ger Aberhonddu

Ty Hedfan ym Mhont Faen, ger Aberhonddu. Image copyright Other
Image caption Tŷ Hedfan ym Mhont Faen, ger Aberhonddu

Mae Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru wedi rhoi gwobr arbennig i gwpl o Gymru sydd wedi cynllunio tŷ pren.

Mae Sarah Featherstone a Jeremy Young, y ddau yn benseiri, wedi cynllunio tŷ ym Mhont Faen ger Aberhonddu.

Mae Tŷ Hedfan wedi ei godi uwchben Afon Ysgir

"Mae tŷ ar safle hen felin goed - mae o ar lethr serth ac roedd hynny yn gwneud pethau'n anodd iawn," meddai Mr Young sy'n 38 oed.

Coed

"Oherwydd rheolau cynllunio mae'n amhosib adeiladu waliau wrth ochr gwely afon, felly fe wnaethom benderfynu adeiladu uwchben yr afon."

Mae ystafell fyw Tŷ Hedfan uwchben Afon Ysgir, wedi ei amgylchynu gan goed.

"Pan fyddwn yn eistedd yn yr ystafell fyw mae'n anhygoel i weld y coed yn symud yn y gwynt.

"Ac mae'n anhygoel cael byw wrth ymyl afon."

Mae gan y cwpl swyddfeydd yn Llundain.

"Mae'n dda cael clod gan bobl oddi fewn ein proffesiwn," ychwanegodd.

Ym mis Mai derbyniodd y tŷ anrhydedd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.