Cwpl wedi marw yn eu cartref
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod cwpl wedi marw yn eu cartref ar Ynys Môn dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ ym Mhentrefelin, Amlwch, am 9.24am ddydd Sadwrn.
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio.
Dywedodd y crwner mai Ralph Thomas Hay, 67 oed, a Patricia Hay, 74 oed, oedd y ddau.
Roedden nhw'n byw yn Mill Cottage.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y marwolaethau'n amheus.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol