Dod o hyd i gorff mewn afon

  • Cyhoeddwyd

Daeth Heddlu Dyfed Powys o hyd i gorff yn Afon Teifi ger Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfryddin, ddydd Sadwrn.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn rhoi gwybod i i deulu David John Williams o Gwmhiraeth ger Drefach Felindre am y sefyllfa ddiweddara.

Roedd y gwasanaethau brys yn chwilio'r ardal am na ddaeth y dyn 63 oed adre ar ôl bod yn y clwb rygbi lleol ar Ragfyr 10.