Y stori tu ôl yr ystadegau

Ysbyty Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae mwy o bobl yn gweithio ym maes iechyd

Go brin y gall ystadegau ddweud y cyfan am economi Cymru ond mae rhai diweddara'r Swyddfa'r Ystadegau Gwladol yn ddadlennol.

Tra bod 5% o bobl y Deyrnas Unedig yn byw yng Nghymru, mae cyfraniad Cymru i gyfoeth economaidd Prydain (GVA) ond yn 3.6% o'r cyfanswm.

Yn ogystal ers dirwasgiad 2008 mae economi Cymru wedi colli tir.

Ers 1997 hefyd mae'r hyn y mae Cymru'n ei gyfrannu fesul awr wedi gostwng o'i gymharu â'r cyfartaledd Prydeinig.

Ydy hynny'n awgrym, tybed, nad ydy'n gweithwyr a'n cwmnïau ni mor gynhyrchiol?

Yn amlwg, rhaid gochel rhag datganiadau ysgubol, ond os gall yr ystadegau sbarduno trafodaeth, gorau oll.

Tri mwyaf

Ym mha feysydd y mae pobl Cymru'n gweithio, felly? Y tri mwyaf yw:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol - 223,000 o bobl;
  • Gwerthu a dosbarthu nwyddau - 202,000 o bobl;
  • Cynhyrchu - 150,000 o bobl.

Ers dechrau 2007, y cyfnod sy'n rhagflaenu argyfwng y banciau, mae'r nifer sy'n gweithio ym maes iechyd wedi cynyddu.

Ond nid felly yn y ddau faes arall, arwydd o ba mor anodd mae'r amgylchiadau wedi bod ac, yn wir, mae 'na arwyddion bod cyflogaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol bellach yn gostwng hefyd.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ar drothwy'r Nadolig, awgrym bod gobaith i siopau bach

Yn 2000 roedd 214,000 o bobl Cymru yn gweithio ym maes cynhyrchu ond erbyn Mehefin 2011 roedd hynny wedi gostwng i 149,700.

Mae cwymp wedi bod hefyd yn y nifer sy'n gweithio yn y sector ariannol - 37,100 yn haf 2007 - eto yn y cyfnod cyn chwalfa'r byd bancio - i 25,500 yng ngwanwyn 2011.

Nid yw'n syndod felly fod cynnydd wedi bod yn nifer y di-waith, 137,000 yn ôl y cyfri diweddara' a chynnydd o 14,000 yn ystod y tri mis hyd at ddiwedd Medi.

Erbyn hyn, mae 9.3% o weithlu Cymru yn cael eu hystyried yn swyddogol yn ddi-waith. Eto, mae'r ganran o oedolion sydd ddim yn gweithio yn uwch o lawer na hynny, 23.9% yn y de ddwyrain, 25.9% yn y de orllewin.

Mae diweithdra ar ei ucha' ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Amrywiaeth fawr

O ddychwelyd at y cyfoeth sy'n cael ei greu ceir amrywiaeth fawr.

Mae cyfraniad Caerdydd a Bro Morgannwg yn fwy na'r cyfartaledd Prydeinig ond mae cyfraniad Canolbarth Cymru ond yn 63.1% o hynny ac yn adlewyrchu hwyrach fod canran uwch o bobl hŷn yn byw yno a bod 'na bobl sy'n teithio cryn bellter i'w gwaith.

O edrych ar gostau byw, 5% oedd graddfa chwyddiant yn ystod y flwyddyn hyd at fis Hydref. Mae cynnydd wedi bod ers 2009 - a chodi o hyd mae pris nwy a thrydan.

Cafwyd peth tystiolaeth fod rhai o'r archfarchnadoedd wedi gostwng prisiau bwyd yn ystod mis Hydref ac efallai y bydd hynny'n effeithio ar raddfa chwyddiant maes o law.

Ar hyn o bryd £604 yr wythnos yw incwm teuluoedd Cymru ar gyfartaledd (£711 yn Lloegr - gwahaniaeth o dros £100 felly). Incwm blynyddol teuluoedd Cymru ar ôl treth, ar gyfartaledd, oedd £13,484 yn 2009 (£15,333 oedd y cyfartaledd Prydeinig.)

Swm isaf

Rhwng 2008 a 2010 fe wariodd teuluoedd Cymru £394 yr wythnos ar gyfartaledd, y swm isaf ar ôl rhanbarth Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Dyma'r tair prif elfen:

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Ers dirwasgiad 2008 mae economi Cymru wedi colli tir
  • Trafnidiaeth (yn cynnwys petrol) - £64.90;
  • Costau cadw tŷ (yn cynnwys morgais, nwy a thrydan) - £60.40;
  • Hamdden a diwylliant - £58.10.

Y ffigwr ar gyfer bwyd a diodydd di-alcohol oedd £53.20.

O ran gwerthiant yn y siopau, fe gododd 0.6% drwy'r DU ym mis Hydref a 5.4% dros gyfnod o flwyddyn.

Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod pwysig ar drothwy'r Nadolig - ac mae ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gobaith hefyd i'r siopau bach.

Roedd 'na 5.3% o gynnydd yn eu gwerthiant dros flwyddyn - efallai wrth i gwsmeriaid osgoi'r canolfannau mawr bob hyn a hyn er mwyn arbed costau petrol.

Gellir gwneud hynny drwy siopa ar y we - a bydd £7 biliwn yn cael ei wario'n wythnosol ar lein drwy'r DU yn y cyfnod cyn yr Ŵyl.

Bydd mwy o fanylion am adroddiad y Swyddfa Ystadegau ar raglenni Newyddion BBC Cymru yn ystod yr wythnos.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.