Atgofion melys a chwerw

Pwll Lewis Merthyr 1986 {Ivor England, olaf ar y dde} Image copyright Other
Image caption Roedd Ivor yn bresennol pan adawodd y tram olaf ym Mhwll Lewis Merthyr

Ar Ragfyr 13, 1990, caeodd Pwll Glo'r Maerdy, yr olaf yng Nghwm Rhondda.

Roedd y cwm yn enwog drwy'r byd oherwydd y diwydiant ac yn y dauddegau roedd dros 140,000 o lowyr.

Erbyn hyn, mae gwefan Casgliad y Werin yn chwilio am atgofion eu teuluoedd.

Un sy'n cofio bywyd y glöwr ym Maerdy yw Ivor England, 75 oed o'r Porth ger Pontypridd.

"Mae'n bwysig dweud yr hanes wrth bobol gan fod yr orie dan ddaear wedi siapio'r wlad rydyn ni'n byw ynddi heddi," meddai Ivor, un o'r rhai sefydlodd Barc Treftadaeth y Rhondda.

"Fe wnes i weithio gyda dynion gwych o bob cenedl. Maen nhw'n dweud fod adfyd yn arwain at hiwmor ac roedd hynny yn sicr yn wir yn y diwydiant glo.

"Mae gen i atgofion gwych, ac mae gen i ddyled i nghydweithwyr dan ddaear."

Ar Gasgliad y Werin mae dros 33,000 o eitemau, gan gynnwys lluniau a straeon Ivor.

Gan fod ei dad wedi cyrraedd cymoedd y glo yn 1906 a mab Ivor newydd orffen ei swydd yn y diwydiant, mae Ivor wedi honni nad oes teulu arall yn y cwm wedi gweithio mor hir dan ddaear.

"Y peth ola wnes i ym mhwll y Maerdy o'dd cymryd rhan yn y gwasanaeth ffarwelio yn y cantîn cyn Nadolig 1990," meddai.

Image copyright Other
Image caption Pwll glo Lewis Merthyr ar ei anterth yn 1900

"Roedd y gwasanaeth hefyd i gofio'r 81 dyn fu farw mewn ffrwydrad yn Rhagfyr 1885.

"Roedd canu'r emynau'n anodd wrth edrych ar wynebau dynion caled gyda deigryn ymhob llygad, wrth feddwl am y ffrindiau oedd wedi eu colli dros y blynyddoedd achos ffrwydrade neu glefyd ysgyfaint.

"Yna cerddodd pawb i fyny i Stiwt y Glowyr a cha'l peint."

Ar un adeg roedd 53 pwll yn y cwm. "Roedd y boblogaeth ar ei mwya yn 1924," meddai.

"Roedd gan y cwmnïau glo gytundebau gyda Cunard, White Star a'r Llynges Frenhinol gan nad oedd gormod o fwg wrth losgi'r glo.

"Yna daeth disel ac nid o'dd y llongau môr mor ddibynnol ar lo. Pan ddechreues i weithio yn y pumdege roedd yn amlwg nad o'dd y diwydiant yn mynd i bara'n hir."

Pan oedd dan ddaear roedd yn plygu drwy'r amser ac roedd perygl nwy methan yn barhaol.

"Pan gymerodd y Bwrdd Glo drosodd yn 1947, daeth iechyd a diogelwch yn bwysicach," meddai.

"Ond pan ddechreues i roedd rhaid defnyddio pren i gadw'r to i fyny ac weithie roedd y cwbwl wedi cwympo erbyn y diwrnod wedyn.

"Erbyn diwedd fy amser yn y pwll, roedd yna lot o drafferthion gyda dŵr a llifogydd hefyd."

Er gwaethaf y peryglon, mae Ivor yn colli'r cyfeillgarwch.

Image copyright Other
Image caption Roedd rhaid cloddio 140 troedfedd er mwyn cyrraedd y glo yn y Rhondda

"Yr amser 'ny gyda'r holl byllau glo a ffatrïoedd, roedd yn bosib i rywun heb sgiliau adel yr ysgol a dod o hyd i swydd, a cha'l arian yn ein pocedi ar y penwythnos," meddai.

"Roedd 'da ni'r eglwysi, y clybie a'r tafarndai ond nawr mae cyment ohonyn nhw'n stryglo i gadw ar agor.

"Falle bod dillad pobol ifanc ar gorneli'r strydoedd yn well ond sdim cyment o obeth iddyn nhw ga'l swydd.

"Falle ein bod wedi defnyddio'r gair yn ormodol ond ro'dd brawdolieth yn y Rhondda.

"Ro'dd addysg yn bwysig, a daeth sawl bocsiwr a chwaraewr rygbi gwych o'r ardal.

"Ro'dd yr undeb hefyd yn gryf, ac o hynny daeth yr alw am bethe fel y Gwasanaeth Iechyd. Daeth y gofyn am hynny o'r glowyr."

Mae Ivor felly yn frwdfrydig i rannu ei stori ac am i ragor o bobl wneud hynny trwy Casgliad y Gwerin.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.