Y Cymry aeth i Sbaen

Milwyr yn Rhyfel Sifil Sbaen Image copyright Other
Image caption Roedd dynion a merched o 55 gwlad wedi gwirfoddoli gyda'r brigadau rhyngwladol

Bydd cyfraniad 11 dyn ifanc o Abertawe i Ryfel Cartref Sbaen yn cael ei gofnodi yn y ddinas am y tro cyntaf.

Saithdeg pedair blynedd ar ôl i Morgan Havard a'i ffrindiau lwyddo i groesi dros y Pyreneau i Sbaen i ymladd gyda'r frigâd ryngwladol yn erbyn Franco roeded eu teuluoedd yn bresennol wrth i gofeb gael ei dadorchuddio yng Nghanolfan Sifil Abertawe ar Ragfyr 14.

Ymhlith y perthnasau roedd Julie Norton o Rydaman, merch Morgan Havard.

"Rydw i'n falch iawn o'r hyn wnaeth fy nhad," meddai. "Ar y pryd, doedd pawb ddim yn cytuno gyda'i safbwynt.

"Ond 'se pawb yn gwybod amser 'ny beth yr ydyn ni'n ymwybodol ohono fe nawr, am Hitler a'r ffasgwyr, byddai mwy wedi ymuno â fe."

'Arwr'

Dywedodd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Ioan Richard, ddadorchuddiodd y gofeb: "Mae'n dri chwarter canrif ers i ddynion o'n dinas ni fynd i gefnogi llywodraeth gyfreithiol Sbaen i ymladd yn erbyn ffasgwyr Franco.

"Roedd Morgan Havard yn dod o fy mhentre' i, Craig Cefn Parc.

"Collodd ei fraich ond daeth yn ôl yn arwr. Mae ein pentre' ni, fel Abertawe gyfan, yn falch iawn o'r rhai a'th draw i Sbaen."

Dechreuodd y Rhyfel Cartre yn 1936 pan wnaeth y Cadfridog Franco a'i gefnogwyr wrthryfela yn erbyn y llywodraeth weriniaethol etholedig.

Roedd Morgan yn 23 oed pan ymunodd ag eraill o'r cymoedd yn 1937.

Ar ôl croesi'r Pyreneau ar droed, ymunodd â'r brigadau rhyngwladol ond cafodd ei saethu yn ei goes a'i fraich a'i garcharu.

"Yn anffodus, bu farw fy nhad yn 58 oed," meddai Mrs Norton.

"Pan y'ch chi'n ifanc, chi ddim yn meddwl gofyn cwestiynau ond ces i wybod oddi wrth fy mam bod ei gyfeillion wedi ei gario ar stretsier a bod fy nhad yn ymwybodol fod hynny'n eu harafu ac felly wedi gofyn iddyn nhw ei adael ar ochr yr hewl gydag ychydig o fwyd a dŵr.

Image copyright Other
Image caption Dychwelodd Morgan Havard i Abertawe yn 1938 ar ôl colli ei fraich

'Dim llawer'

"Daeth milwyr Franco o hyd iddo, ond cas e fynd i wersyll carcharorion yn lle cael ei saethu. Collodd ei fraich ond ro'dd 'na feddyg Almaeneg wedi gwneud popeth o fewn ei allu i achub ei go's.

"Ddywedodd e ddim llawer am ei brofiadau dim ond dweud nad oedd yn gallu bwyta ffa pob gan taw hwn o'dd y bwyd bob dydd yn y gwersyll."

Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio gyda Chymdeithas y Brigadau Rhyngwladol i ddarganfod pa ddynion aeth i Sbaen o Abertawe rhwng 1936 a 1939.

Mae'r gofeb yn nodi enwau'r rhai fu farw yn Sbaen, sef R Horridge, J Scott a J Watts.

Dywedodd yr Arglwydd Faer: "Daeth dros 59,000 o ddynion o 55 wlad i ymuno â'r brigadau rhyngwladol. Roedden nhw wedi rhagweld sut y gallai Almaen Hitler ac Eidal Mussolini greu erchylltra dros Ewrop 'se neb yn eu hatal, ac aethon nhw i Sbaen i fynegi eu safbwynt.

"Dyw'r ffaith eu bod wedi colli'r achos ddim yn lleihau eu hymrwymiad na'u haberth a rhaid i ni gofio taw dim ond ychydig fisoedd ar ôl diwedd Rhyfel Cartre Sbaen y dechreuodd yr Ail Ryfel Byd."