Ffatri: 36 o swyddi'n diflannu?

Mae cwmni'n ymgynghori am fod 36 o swyddi o dan fygythiad.

Y cwmni yw Norgine Pharmaceuticals yn Nhiryberth ger Hengoed, Sir Caerffili.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 350 o bobl.

"Mae'r swyddi o dan fygythiad yn yr adran reoli ansawdd a chynhyrchu," meddai llefarydd.