Cwmni ynni'n creu 250 o swyddi

Logo SSE Image copyright Other
Image caption Mae SSE yn cyflogi 2,000 o bobl yng Nghymru

Bydd hyd at 250 o swyddi'n cael eu creu wrth i gwmni Scottish and Southern Energy (SSE) agor canolfan hyfforddi newydd gwerth £7 miliwn yn Nhrefforest ger Pontypridd.

Mae'r cwmni darparu ynni Swalec yn rhan o SSE, ac mae'r buddsoddiad yn ganolfan yn cynnwys £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Canolfan Ynni Craff Swalec yn gartref i dimau arbenigol sy'n ymateb i newidiadau yn y farchnad.

Disgwylir y bydd y ganolfan yn barod ymhen chwe mis.

'Parodrwydd i fuddsoddi'

Dywedodd Prif Weithredwr SSE, Ian Marchant: "Mae'r cyhoeddiad yma'n dangos cryfder ein hymrwymiad i Gymru.

"Mae'n dangos ein parodrwydd i fuddsoddi a chreu swyddi yn y ganolfan gyffrous yma a fydd yn sicrhau fod gan ein staff y sgiliau i fod ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd.

"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i'n cynorthwyo i wireddu'r freuddwyd yma."

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Weinidog Busnes Cymru, Edwina Hart.

"Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r buddsoddiad sylweddol yma yn un o'r prif sectorau a fydd nid yn unig yn creu cannoedd o swyddi 'gwyrdd' cynaliadwy ond hefyd yn hybu'r sylfaen sgiliau sydd ei angen yn y sector hwn sy'n tyfu'n gyflym iawn," meddai.

"Bydd yr ehangu yn cynnig hyfforddiant gwych a chyfleoedd am swyddi i bobl ifanc yr ardal wrth gyfrannu at a chefnogi targedau carbon isel Llywodraeth Cymru."

SSE yw prif gynhyrchydd ynni adnewyddol y DU, ac mae'n cyflogi dros 2,000 o bobl yng Nghymru - dwy ganolfan gwasanaethau'r cwsmer yng Nghaerdydd, gorsaf bŵer Aberwysg, busnes cytundebau a mesuryddion ac adran goleuadau stryd.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae SSE wedi creu dros 800 o swyddi newydd yng Nghymru wrth ehangu eu gweithredoedd busnes.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.