Plaid: McEvoy yn cael ailymuno

Neil McEvoy Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yr wythnos penderfynodd Plaid Cymru ei wahardd dros dro

Mae dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd yn nôl fel l aelod o Blaid Cymru ar ôl ymchwiliad gan y blaid.

Roedd Neil McEvoy wedi ei atal rhag bod yn aelod ar ôl sylwadau am elusen Cymorth i Ferched Cymru.

Ar wefan Facebook roedd Mr McEvoy wedi honni bod y mudiad yn ariannu cam-drin plant yn gyhoeddus am eu bod yn cefnogi merched oedd yn torri gorchmynion llys.

Fe wnaeth yr elusen wadu ei honiadau.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr McEvoy ymddiheuro ond mae o wedi derbyn rhybudd ffurfiol gan y blaid.

"Penderfyniad unfrydol y panel oedd cynnal y gwyn yn erbyn Neil McEvoy," meddai Cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

"Mae Mr McEvoy wedi derbyn rhybudd ffurfiol yn ogystal â chanllawiau ynglŷn â'i ymddygiad.

"Dymuna Plaid Cymru gymryd y cyfle i ategu ein cefnogaeth i Cymru Diogelach, Cymorth i Ferched Cymru a'r holl fudiadau sy'n gweithio yn ddiflino i warchod merched, dynion a phlant mewn cysylltiad â thrais."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Lafur Cymru bod y penderfyniad i dderbyn Mr McEvoy yn nôl fel aelod yn "un siomedig".

Honnodd y cynghorydd Llafur Cerys Furlong bod rhaid i Mr McEvoy "ymddiheuro yn llawn" o hyd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.