Cynghorydd yn ymddiswyddo am yfed a gyrru

Mae cynghorydd Llafur wedi ymddiswyddo o Gyngor Sir Penfro ar ôl cael ei dal yn yfed a gyrru.

Roedd Kate Becton wedi yfed tair gwaith yn fwy na'r lefel cyfreithiol o alcohol pan gafodd ei harestio ar Dachwedd 3.

Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i'w char daro yn erbyn tŷ cymydog.

Mae hi wedi cynrychioli ward Canol Doc Penfro am saith mlynedd.

Fydd yna ddim isetholiad gan ei bod wedi ymddiswyddo o fewn chwe mis i'r cyfnod pan gynhelir etholiadau cynghorau lleol.

Cafodd ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd gan Ynadon Hwlffordd. .

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.