Menyw 23 oed yn y ddalfa

Emma Louise Jones Image copyright Other
Image caption Roedd Emma Louise Jones yn 31 oed

Mae menyw 23 oed wedi bod yn Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o lofruddio Emma Louise Jones, 31 oed, ym Mhenygroes, Gwynedd.

Cadarnhaodd Alwen Eluned Jones, 23 oed o Lanllyfni, ei henw ac nid oedd cais am fechnïaeth.

Bydd hi yn y ddalfa cyn ymddangos yn y llys ar Chwefror 10.

Aed ag Emma Louise Jones ar frys i Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn oriau mân fore Sadwrn wedi iddi gael ei thrywanu.

Yn yr ysbyty cyhoeddwyd ei bod wedi marw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.