Llawdriniaethau'n ailddechrau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd llawdriniaethau'n ailddechrau fore Iau wedi iddyn nhw gael eu canslo mewn ysbyty ar ôl i ladron ddwyn ceblau coper o eneradur.
Digwyddodd y lladrad ddydd Mawrth yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ger Caerdydd.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi gobeithio y byddai generadur newydd wedi ei osod ddydd Mercher.
Mae'r generadur yn sicrhau bod gan yr ysbyty gyflenwad ynni wrth gefn.
Cafodd 81 o lawdriniaethau eu canslo, gan gynnwys rhai ar ddwy fenyw oedd yn disgwyl llawdriniaeth canser y fron.
Cafodd 100 metr o geblau eu dwyn a'r gost o gael rhai newydd a'u gosod fydd hyd at £20,000.
Dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Jan Williams, fod y lladrad yn "beryglus ac yn anghyfrifol."
'Gwerth ariannol'
"Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio'n ddiflino i ofalu am bobl fregus yn y gymdeithas.
"Mae'n drist bod lladron yn rhoi mwy o bwyslais ar werth ariannol y copr na bywydau."
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio wedi iddyn nhw gael gwybod am y lladrad am 2pm ddydd Mawrth.
Mae Paul Hollard, Dirprwy Brif Weithredwr y bwrdd iechyd, wedi dweud: "Mae staff a chleifion wedi eu dychryn oherwydd y weithred beryglus ac anghyfrifol hon.
"Mae'n hollol anghredadwy y gall rhywun beryglu bywydau cleifion yn y fath fodd."
Dywedodd fod y ceblau'n cysylltu'r generadur a'r panel rheoli.
"Mae'r bwrdd iechyd yn ymddiheuro am y gofid achoswyd i gleifion a byddwn yn anelu at aildrefnu llawdrinaiethau'r rhai gafodd eu heffeithio."