AC wedi ymddiheuro
- Cyhoeddwyd
Mae AC Ceidwadol wedi ymddiheuro wedi iddo geisio cefnogaeth i'w wraig ar gyfer sedd wag cyngor ddeuddydd wedi i gynghorydd farw.
Roedd Mohammad Asghar wedi anfon e-byst at Geidwadwyr yng Nghasnewydd yn eu hannog i ystyried ei wraig Firdaus yn ymgeisydd ar gyfer ward Allt-yr-yn.
Dywedodd cynghorydd dderbyniodd e-bost fod Mr Asghar, AC Dwyrain De Cymru, wedi ymddwyn yn amhriodol.
Mae llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol wedi dweud bod yr AC wedi ymddiheruo am achosi unrhyw loes oherwydd amseriad yr e-bost.
Roedd yr AC - sy'n cael ei adnabod fel Oscar - wedi anfon ei neges wedi i'r Cynghorydd Les Knight farw ddydd Sul.
'Yn drist iawn'
"Rwyn drist iawn oherwydd marwolaeth y Cynghorydd Les Knight," meddai'r e-bost.
"Er hyn mae'n ymddangos bod pethau'n dechrau symud yn ward Allt-yr-yn.
"Byddwn yn hynod ddiolchgar pe baech chi'n ystyried Firdaus Asghar ar gyfer Allt-yr-yn.
"Rwy'n siwr eich bod chi'n ymwybodol bod Firdaus wedi byw yn y ward am dros 20 mlynedd ac roedd hi wedi cydweithio yn agos gyda'r Cynghorydd Knight ar faterion yn ymwwneud â'r etholaeth."
Dywedodd y Cynghorydd Ceidwadol Peter Davies ei fod wedi ymateb i'r e-bost drwy ddweud fod Mr Knight wedi bod yn gyfaill am fwy na 30 o flynyddoedd.
"Mae gofyn i unrhyw un am gefnogaeth yn amrhiodol iawn."
'Claddu'
"Dwi erioed wedi clywed am rywun yn gofyn am gefnogaeth o'r fath ar gyfer is-etholiad cyn i'r cyn gynghorydd gael ei gladdu."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Mae Oscar yn drist iawn ar ol colli Les Kinght, oedd yn un o'i ffrindiau agosaf.
"Mae Oscar wedi ymddiheuro pe bai wedi brifo teimladau oherwydd amseriaid ei e-bost.
"Mae Oscar wedi cadarnhau na fydd ei wraig yn ceisio am sedd yn yr etholiadau ar gyfer y cyngor."