Canfod corff ar draeth Aberdaron

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod corff wedi ei ganfod ar draeth Aberdaron.

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio am ddynes yn ei 60au sydd wedi bod ar goll o'i chartref yn ardal Pwllheli ers dydd Mercher.

Cafodd y corff ei ganfod ar y traeth yn fuan cyn 3pm ddydd Iau.

Mae teulu'r ddynes wedi cael eu hysbysu,

Dydi'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.

Bu timau Gwylwyr y Glannau yn chwilio'r ardal rhwng Abersoch ac Aberdaron.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.