Polisi Cyngor Caerdydd i daclo troseddu
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu polisi dirlawnder o ran Heol y Brodyr Llwydion a Ffordd Churchill yng nghanol y ddinas.
Gorfodwyd y parth dirlawnder yn dilyn pryderon gan Heddlu De Cymru ynghylch effaith gyfunol safleoedd trwyddedig yn yr ardal hon.
Cred Heddlu De Cymru fod effaith safleoedd trwyddedig y ddwy stryd gyda'i gilydd yn arwain at broblemau o drosedd ac anrhefn yn ogystal â niwsans sydd y tu hwnt i reolaeth y deiliaid trwyddedau unigol.
Er mai nifer cymharol fach o eiddo trwyddedig sydd ar Heol y Brodyr Llwydion (6 i gyd), o gymharu â strydoedd eraill yng nghanol y ddinas, dywed y cyngor eu bod yn sefydliadau yfed ar eich traed ac yn fawr iawn.
Ond maen nhw'n ychwanegu bod cysylltiad rhwng troseddau treisgar ag yfed alcohol, a bod mwyafrif yr achosion o'r fath wedi digwydd rhwng 02:00 a 05:00 foreau Sadwrn a Sul.
Cynnydd
Heol y Brodyr Llwydion yw'r ail stryd brysuraf o ran troseddau treisgar yng nghanol y ddinas, gyda chynnydd o 387% mewn achosion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae 13 o safleoedd trwyddedig ar Ffordd Churchill, 6 ohonynt yn dafarn/bar/clwb nos ac ar ben Heol-y-Frenhines o'r stryd.
Mae cyfraddau troseddau treisgar yn Heol-y-Frenhines yn parhau i fod yn gymharol uchel, y trydydd uchaf yng nghanol y ddinas.
Mae 11 o safleoedd trwyddedig ar Heol-y-Frenhines; fodd bynnag mae'r rhain yn fwytai bychain gan amlaf neu'n rhan o siopau.
Mae'n bosib bod agosrwydd at ardaloedd Ffordd Churchill a Heol y Brodyr Llwydion/Plas-y-Parc yn cyfrannu at y ffigurau troseddau.
Mabwysiadwyd polisi dirlawnder yn barod ar gyfer ardal Heol Eglwys Fair ac ardal Heol y Plwca/Ffordd Crwys y ddinas.
'Cefnogaeth gref'
Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi mabwysiadu'r polisïau hyn yn y gobaith o rwystro trosedd ac anrhefn ac osgoi niwsans, yn dilyn sylwadau Heddlu De Cymru.
Dywedodd Ed Bridges, cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu Cyngor Caerdydd: "Cafwyd cefnogaeth gref ar gyfer y parth newydd hwn pan gynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater yn gynharach eleni.
"Cafodd hefyd gefnogaeth unfrydol aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu pan drafodwyd y mater.
"Mae cymeriad y ddwy stryd wedi newid yn eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n rhaid i'n polisi ni ymateb i hynny.
"Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ymdrin â thrwyddedu mewn ffordd ymarferol, ac yn ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun."
Dywedodd y Sarjant Trwyddedu Scott Lloyd o Heddlu De Cymru, bod Caerdydd yn lle gwych i fynd ar noson allan.
"Ond mae angen iddi fod yn ddiogel, lle ystyrir anghenion y gymuned, y sector fusnes ac ymwelwyr.
"Mae'r polisi dirlawnder yn helpu i gadw cydbwysedd."
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2011
- 26 Medi 2011
- 24 Tachwedd 2011