Lladrad arfog: Dyn yn yr ysbyty

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Heddlu: Dau ddyn wedi mynd i mewn i'r tŷ rhwng 7pm a 8.45pm

Mae dyn 55 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu yn ei goes wedi lladrad mewn pentref yng Ngwynedd.

Cafodd y dyn ei saethu yn ystod y lladrad yn ei dŷ nos Iau yn Rhydyclafdy ym Mhen Llŷn.

Dywedodd yr heddlu fod dau ddyn wedi mynd i mewn i'r tŷ rhwng 7pm a 8.45pm.

"Rydan ni'n dilyn sawl trywydd," meddai'r Prif Arolygydd Iestyn Davies.

"Ac rydan ni'n awyddus i siarad efo rhywun welodd unrhyw gerbydau yn cynnwys tri dyn, yn enwedig rhwng Rhydyclafdy a Llanbedrog y noson dan sylw."

Anyone with information about the incident can contact North Wales Police on 101, if in Wales, or 0300 3300101. Alternatively call Crimestoppers on 0800 555111.

Dywedodd yr heddlu fod dau wn, arian a gemwaith wedi eu dwyn.

Aeth dau ddyn i mewn i'r tŷ cyn dianc mewn car.

Mae swyddogion fforensig wedi bod yn archwilio a'r heddlu'n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.