Sawl newid ym mlaenwyr y Gweilch

Ian Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Ian Evans ei adael allan yn erbyn y Saraseniaid yn y rownd ddiwethaf

Mae sawl newid ym mlaenwyr y Gweilch sy'n herio'r Saraseniaid yn Stadiwm Liberty nos Wener.

Bydd y ddau glo arbenigol, Ian Gough ac Ian Evans, yn dychwelyd oherwydd trafferthion yn y lein a Ryan Jones a Jonathan Thomas yn symud i'r rheng ôl.

Bydd Paul James oedd wedi cael anaf yn chwarae ei gêm gyntaf i'r Gweilch y tymor hwn.

Justin Tipuric fydd y capten yn lle Tom Smith sydd ddim hyd yn oed yn y garfan.

Apêl

Mae Shane Williams wedi apelio ar gefnogwyr i ddod yn llu ar gyfer yr ornest hollbwysig.

Y tymor hwn mae'r torfeydd wedi bod yn broblem i'r holl ranbarthau gyda'r Gweilch yn gweld cyfartaledd o 6,528 yng nghynghrair y Pro12.

Roedd 41,063 ym maes y Saraseniaid pan guron nhw'r Gweilch o 31-26 y penwythnos diwethaf.

Dywedodd Williams: "Rydym wedi bod yn gwneud yn dda gartref eleni ac os cawn ni fwy o dorf rwy'n siwr y byddai hynny'n gwneud i ni chwarae'n well hyd yn oed.

"Pan mae'r stadiwm yn llawn a phawb yn ein cefnogi mae'n help mawr.

"Mae e bron fel cael 16 dyn ar y cae - mae hynny'n ystrydeb, dwi'n gwybod, ond mae e wir yn help."

'Diddorol'

Wrth edrych ymlaen at y gêm, dywedodd hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley: "Doedd dim byd annisgwyl gan y Saraseniaid i'w gynnig y penwythnos diwethaf ...

"Cicio a leiniau cryf yw eu gêm nhw - ymosodiad o'r awyr.

"Yn amddiffynnol yn yr hanner cyntaf fe wnaethon ni ddechrau'n rhy araf a rhoi dechrau da i'r gwrthwynebwyr.

"Allwch chi ddim gwneud hynny a dyna oedd y gwahaniaeth. Fe fyddwn ni'n gweithio'n galed i beidio gwneud yr un camgymeriad.

"Mae Treviso wedi gwneud y grŵp yn ddiddorol gyda'u canlyniadau nhw, ond ni sy'n bwysig nos Wener a neb arall."

MANYLION TIMAU:

Gweilch: Richard Fussell; Tommy Bowe, Andrew Bishop, Ashley Beck, Shane Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Ian Gough, Ian Evans, Ryan Jones, Justin Tipuric (capten), Jonathan Thomas.

Eilyddion: Huw Bennett, Duncan Jones, Aaron Jarvis, Joe Bearman, George Stowers, Kahn Fotuali'i, Matthew Morgan, Hanno Dirksen.

Saraseniaid: Manylion heb eu cyhoeddi hyd yma

Straeon perthnasol