Damwain: Anafiadau difrifol

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd y ddamwain am 9.40am fore Gwener

Mae menyw 40 oed yn ddifrifol wael yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi damwain ffordd am 9.40am fore Gwener.

Fe gafodd dyn 30 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus.

Roedd fan Renault lwyd wedi taro'r gerddwraig ar yr A472 yn Ystrad Mynach.

Dywedodd yr heddlu fod rhan o'r A472 ar gau am gyfnod.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.