Newcastle yn rhoi teyrnged i Speed

Cysuro Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Alan Shearer yn cysuro gweddw Gary Speed

Roedd gweddw Gary Speed yn bresennol wrth i Glwb Newcastle a'u cefnogwyr roi teyrnged arbennig i'w cyn chwaraewr.

Yn wreiddiol, roedd y clwb wedi bwriadu cynnal y deyrnged ar Ragfyr 3 ond gohiriwyd hyn ar gais Louise Speed.

Roedd hi wedi teithio i Leeds y diwrnod hwnnw lle oedd ei glwb cyntaf wedi trefnu teyrnged.

Y canwr opera Gwyn Hughes Jones a chefnogwyr ganodd Cwm Rhondda ddydd Sadwrn cyn y gêm yn erbyn Abertawe. Wedyn roedd munud o gymeradwyaeth.

Cafwyd hyd i reolwr tîm cenedlaethol Cymru yn farw yn ei gartref yn Sir Caer y mis diwethaf.

Parch

Dywedodd rheolwr Newcastle Alan Pardew cyn y gêm fod y cefnogwyr yn awyddus i ddangos i'r teulu fod y cyn chwaraewr yn fawr ei barch.

Yn Eisteddle'r Dwyrain roedd miloedd o gefnogwyr yn dal cardiau ar ffurf 11, rhif Speed ar ei grys pan oedd yn chwarae i Newcastle.

Dywedodd Mr Pardew: "Mae Louise a'r teulu yn dod yma ac rydym yn ymwybodol fod angen rhoi teyrnged yn y modd cywir, teyrnged y byddan nhw fel teulu yn falch ohoni."

Fe wnaeth Speed chwarae 285 o weithiau i Newcsatle a sgoriodd 40 o goliau mewn chwe blynedd a hanner.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.