Cwpan Heineken: Noson siomedig

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd hi'n gêm emosiynol iawn yn Stadiwm Liberty

Gweilch 13-16 Saraseniaid

Roedd yna ergyd i obeithion y Gweilch o gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Heineken wrth iddyn nhw golli i'r Saraseniaid yn Stadiwm Liberty nos Wener.

I ychwanegu at gur pen y Gweilch, fe wnaeth Biarritz, oedd ar un adeg yn colli gartref i Treviso, sicrhau buddugoliaeth gyda phwynt bonws.

Mae'r Gweilch yn drydydd yn Grŵp 5 ac yn gorfod teithio nesa i Biarritz.

Camgymeriad Dan Biggar, gymerodd ormod o amser wrth geisio cicio'r bêl yn glir, arweiniodd at gais y Saraseniaid.

Llwyddodd Charlie Hodgson i ruthro'r gic ac fe ddisgynnodd y bêl yn garedig i Ernst Joubert groesodd y llinell.

Llwyddodd Owen Farrell gyda'r trosgais ac ychwanegodd gic gosb cyn yr egwyl i sicrhau mantais o 16-6.

Yn yr ail hanner, yn dilyn rhediad da gan Shane Williams fe lwyddodd Biggar i ryddhau Ian Gough.

Daeth y cais a'r trosgais a'r Gweilch o fewn tri phwynt ond doedd dim mwy o bwyntiau i ddod.

Caeredin 19-12 Gleision

Image copyright PA
Image caption Tim Visser yn cael cais cynnar i Gaeredin yn erbyn Y Gleision

Fe wnaeth cic yn y munudau olaf sicrhau pwynt bonws i'r Gleision yng Nghaeredin ond y tîm cartref oedd yn fuddugol.

Mae'r ddau dîm yn gyfartal ar frig Grŵp 2.

Daeth buddugoliaeth Caeredin diolch yn bennaf i'w perfformiad yn yr hanner cyntaf.

Yn dilyn toriad gwych gan Nick De Luca fe wnaeth Tim Visser groesi yn y gornel am unig gais y gêm.

Daeth gweddill y pwyntiau i'r tîm cartref o esgid Greig Laidlaw, gan roi mantais o 19-3 ar yr hanner.

Cafodd y Gleision fwy o'r meddiant yn yr ail hanner - ond methodd yr ymwelwyr â chroesi'r llinell.

Yn y diwedd bu'n rhaid dibynnu ar gic gosb o bellter gan Leigh Halfpenny er mwyn sicrhau'r pwynt bonws.

Grŵp 2 Gemau Ennill Cyfartal Colli Pwynt Bonws Cyfanswm
Y Gleision 4 3 0 1 1 13
Caeredin 4 3 0 1 1 13
Gwyddelod yn Llundain 3 1 0 2 3 7
Racing Metro 92 3 0 0 3 3 3
Grŵp 5 Gemau Ennill Cyfartal Colli Pwynt Bonws Cyfanswm
Saracens 4 3 0 1 2 14
Biarritz 4 2 0 2 4 12
Y Gweilch 4 1 1 2 2 8
Treviso 4 1 1 2 0 6

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.