Buddugoliaeth i Lanelli yn erbyn Aberystwyth

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Wedi taith i Goedlan Y Parc yn Aberystwyth nos Wener ennill oedd hanes Llanelli o ddwy gôl i un.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Llanelli yn aros ar frig y tabl am y penwythnos am fod ganddyn nhw bedwar pwynt yn fwy na Bangor sy'n ail.

Daeth y tair gôl o fewn chwe munud yn yr hanner cyntaf.

Antonio Corbisiero gafodd y gôl gyntaf i'r tîm cartref wedi 22 munud er mai chwaraewr Llanelli ydio gan iddo rwydo i'w gôl ei hun.

Chris Venables rwydodd dau funud yn ddiweddarach i'r ymwelwyr.

Rhys Griffiths gafodd ail Llanelli wedi 27 munud.

Dwy gêm sydd gan y ddau dîm cyn y bydd y gynghrair yn cael ei rhannu yn y flwyddyn newydd.

Nos Wener

Aberystwyth 1-2 Llanelli

Dydd Sadwrn

Y Drenewydd v Airbus (14:30)

Port Talbot v Bangor (14:30)

Prestatyn v Castell-nedd (14:30)

Caerfyrddin v Y Seintiau Newydd (15:45)

Dydd Sul

Bala v Lido Afan (14:30)

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Llanelli 20 45
2. Bangor 19 +17 41
3. Y Seintiau Newydd 19 +20 40
4. Castell-nedd 18 +19 33
5. Bala 19 +6 30
6. Prestatyn 19 +3 27
7. Airbus UK 19 -5 22
8. Lido Afan 19 -8 21
9. Port Talbot 18 -10 18
10. Aberystwyth 20 15
11. Y Drenewydd* 19 -27 13
12. Caerfyrddin 19 -29 10
* - Y Drenewydd yn ildio 3 phwynt am fod â chwaraewyr nad oedd yn gymwys.

Dydd Gwener, Rhagfyr 16, 2011.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.