Dedfryd o garchar wedi ei ohirio i beilot.

Phillip Burfoot Image copyright PA
Image caption Roedd Philip Burfoot yn dod o Gaerdydd

Mae cyd-beilot hofrennydd y Llu Awyr a fu mewn damwain arweiniodd at farwolaeth tri o bobl wedi llwyddo i osgoi'r carchar.

Mae Robert Hamilton, 29 oed yn baraplegia wedi'r ddamwain ar Awst 8 2007 yng Ngogledd Sir Efrog.

Roedd o ar fwrdd y Puma £20 miliwn pan fu mewn damwain.

Bu farw'r peilot David Sale, 28 oed, o Norton, ger Stockton; Phillip Burfoot, 27 oed, o Gaerdydd a Sean Tait, 17 oed o Glasgow.

Mewn gwrandawid cwrt-marsial cynharach yn Sir Wiltshire, fe blediodd Hamilton yn euog i fod yn hedfan yn ddiofal a allai arwain at golli bywyd neu anafiadau corfforol difrifol.

Fe wnaeth y barnwr Vice Judge Advocate General Michael Hunter gyflwyno dedfryd o 16 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.

Straeon perthnasol