Newcastle 0 Abertawe 0

Cyhoeddwyd

Newcastle 0 Abertawe 0

Di-sgôr oedd hi ym Mharc St James wrth i Fabricio Coloccini a Demba Ba o'r tîm cartre daro'r trawst yn yr hanner cynta.

Er bod yr Elyrch yn chwilio am eu buddugoliaeth gynta oddi cartre, roedd eu hamddiffyn yn gadarn yn yr ail hanner a Joe Allen yn feistrolgar yng nghanol y cae.

Fe gafodd y Cymry eu haeddiant ac roedd y rheolwr Brendan Rodgers yn hapus yn mynd adre nos Sadwrn.

Tabl yr Uwchgynghrair