Caerdydd 2 Middlesbrough 3

Caerdydd 2 Middlesbrough 3

Roedd yr Adar Glas wedi bod yn hedfan yn uchel cyn cwympo'n fflat ar eu hwynebau ddydd Sadwrn.

Yr eironi oedd mai dwy gôl anniben ddaeth â'u rhediad o 11 gêm i ben o flaen torf fwya'r tymor, 23,373.

Bart Ogbeche sgoriodd i Middlesbrough cyn i Ben Turner benio i'r tîm cartre.

Aeth Caerdydd ar y blaen oherwydd Aron Gunnarsson cyn i Scott McDonald daro'n ôl i Middlesbrough.

Faris Haroun oedd â'r ergyd farwol, yn mynd heibio dau amddiffynnydd cyn bwrw'r bêl rhwng coesau'r golgeidwad, David Marshall.

Tabl y Bencampwriaeth

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Southampton 21 +21 43
2. West Ham 22 +17 43
3. Middlesbrough 22 +9 41
4. Hull 22 +4 39
5. CAERDYDD 22 +11 38