Wrecsam 2 Gateshead 1

Cyhoeddwyd

Wrecsam 2 Gateshead 1

Mae Wrecsam ar frig yr adran ar ôl trechu Gateshead ar y Cae Ras.

Hyd yn hyn maen nhw wedi ennill 12 gêm o'r bron.

Ar ôl tair munud sgoriodd Mathias Pogba i'r tîm cartre ond roedd amddiffyn gwael yn gyfle i Micky Cummins rwydo i'r ymwelwyr wedi 20 munud.

Cydchwaraeodd Curtis Obeng a Jake Speight yn bert cyn i Danny Wright benio'r gôl fuddugol.

Casnewydd 0 Fleetwood Town 1

Casnewydd berfformiodd orau yn yr hanner cynta ond yr ymwelwyr achubodd eu cyfle.

Cyfunodd Gareth Seddon ac Andy Mangan yn grefftus cyn i Peter Cavanagh rwydo wedi 75 munud.

Cafodd Keiran Charnock o Fleetwood ei anfon o'r cae am daclo Andrew Hughes yn hwyr.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, taw ei anrheg Nadolig orau fyddai lwc.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet