'Dylai gyrwyr fod yn ofalus'
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi dweud y dylai gyrwyr fod yn ofalus wedi nifer o ddamweiniau oherwydd rhew ar y ffyrdd.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin eu galw oherwydd nifer o fân ddamweiniau ddydd Sadwrn.
Dywedodd cwmni First Group fod rhew du wedi effeithio ar wasanaethau bysus yn Sir Gaerfyrddin ac ardal Abertawe.
Yn y cyfamser, mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud bod ychydig o fân ddamweiniau yn Ne Gwynedd.
Fe ailagorodd y lôn i gyfeiriad y dwyrain yn Allt Rhuallt ar yr A55 am 11am fore Gwener ond roedd tagfeydd hir am gyfnod hir.
Fore Sadwrn cafodd menyw ei thorri'n rhydd o gar oedd wedi troi drosodd yn Creigiau ger Caerdydd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai posibilrwydd o gawodydd eirlaw neu eira, yn enwedig ar dir uchel.
Fe fyddai'n oer unwaith eto nos Sadwrn, meddai.