Aberystwyth 1 Llanelli 2
- Published
Canlyniadau'r penwythnos
Nos Wener -
Aberystwyth 1 Llanelli 2
Aeth Aber ar y blaen am fod Antonio Corbisiero wedi cicio i'w gôl ei hun. Ond tarodd Llanelli'n ôl wrth i Chris Venables a Rhys Griffiths rwydo fel eu bod ar frig yr adran o hyd.
Dydd Sadwrn -
Y Drenewydd 1 Airbus 3
Ian Sheridan, Mike Hayes a Mark Allen yn sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus i Airbus. Sgoriodd Zac Evans yn hwyr i'r tîm cartre. Ychydig o gysur.
Port Talbot 1 Dinas Bangor 2
Bangor gafodd y llaw ucha. Les Davies sgoriodd yn gynta cyn i Kyle Wilson rwydo'r ail. Martin Rose sgoriodd i'r tîm cartre. Tra oedd Bangor yn barod i frwydro roedd perfformiad Port Talbot yn siomedig.
Prestatyn v Castell-nedd
Cafodd y gêm ei gohirio am fod y cae o dan ddŵr.
Caerfyrddin 0 Y Seintiau Newydd 1
Tipyn o gamp. Gôl fuddugol Alex Darlington ar ôl dim ond pum munud. Y pwysau felly o hyd ar Lanelli a Bangor yn y safle cynta a'r ail.
Dydd Sul -
Bala v Lido Afan