Damwain: Anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Roedd y ddamwain am 5pm ddydd Sadwrn
Mae menyw oedrannus yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol wedi i gar heddlu ei tharo.
Roedd y ddamwain am 5pm ddydd Sadwrn wrth gyffordd Trem-y-Moelwyn a'r A487 ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd.
Aed â hi i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Dywedodd yr heddlu fod Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cael gwybod.