Uwchgynghrair Rygbi Cymru

Uwchgynghrair Rygbi Cymru Image copyright Other

Canlyniadau Uwchgynghrair Rygbi'r Principality.

Chwe chais i Fedwas wrth roi crasfa i Donmawr sy'n dal i aros am eu buddugoliaeth gynta. Maswr Bedwas, Richard Powell, yn sgorio 17 o bwyntiau, gan gynnwys cais.

Creodd Pont-y-pŵl argraff fawr oddi cartre yn erbyn tîm oedd yn cynnwys nifer o Weilch a phrop Cymru, Ryan Bevington. Er bod eu sgrym weithiau'n cael trafferth roedd Ponty'n ffyrnig yn ardal y dacl.

Diwrnod da i'r Cwins unwaith eto, pedair buddugoliaeth yn olynol. Roedden nhw ar y blaen o 17-6 ar yr egwyl cyn i gais yr asgellwr Tom Rees sicrhau pwynt bonws.

Dydd Sadwrn

Bedwas 42 Tonmawr 12

Pen-y-bont 19 Pont-y-pŵl 27

Cwins Caerfyrddin 30 Casnewydd 23