Munster 19 Scarlets 13

Stephen Jones yn ceisio taclo Simon Zebo Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Stephen Jones yn ceisio taclo asgellwr Munster, Simon Zebo

Munster 19-13 Scarlets

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Munster bum pwynt ar y blaen ar frig Grŵp Un.

Roedd dwy gic gosb Ronan O'Gara yn golygu bod y Gwyddelod ar y blaen ar yr egwyl o 6-3.

Yn yr ail hanner fe frwydrodd y Scarlets yn ôl wrth i Rhys Priestland drosi wedi i Ken Owens sgorio cais.

Cafodd y Gwyddelod eu gyrru'n ôl sawl gwaith ond roedd eu hamddiffyn cadarn - a chamgymeriadau trafod y Scarlets - yn allweddol.

Daeth Viliame Iongi ar y cae yn lle Stephen Jones gafodd anaf i'w ben.

Bwrodd O'Gara'r trawst ond llwyddodd ei gic gosb ddwy funud yn ddiweddarach.

Llaw ucha

Roedd Munster â'r llaw ucha wedi i Jonathan Edwards gael ei anfon i'r gell gosbi am rwystro cais.

Croesodd Coughlan y llinell cyn i O'Gara drosi.

Ciciodd Priestland gic gosb cyn i O'Gara wneud yr un peth. Munster ar y blaen o 19-6.

Cafodd Ken Owens gais arall wedi 66 o funudau.

Erbyn hyn, roedd y Cymry'n llawn ysbryd, yn rheoli'r gêm ond cafodd Rhys Thomas garden felen yn ystod y munudau ola.

Y bedwaredd fuddugoliaeth i Munster yn y grŵp.

Grŵp 1 Gemau Ennill Cyfartal Colli Pwynt Bonws Cyfanswm
Munster 4 4 0 0 0 16
Scarlets 4 2 0 2 3 11
Northampton 4 1 0 3 4 8
Castres 4 1 0 3 2 6
Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd hi'n gêm emosiynol iawn yn Stadiwm Liberty

Gweilch 13-16 Saracens

Roedd yna ergyd i obeithion y Gweilch o gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Heineken wrth iddyn nhw golli i'r Saracens yn Stadiwm Liberty nos Wener.

I ychwanegu at gur pen y Gweilch, fe wnaeth Biarritz, oedd ar un adeg yn colli gartref i Treviso, sicrhau buddugoliaeth gyda phwynt bonws.

Mae'r Gweilch yn drydydd yn Grŵp 5 ac yn gorfod teithio nesa i Biarritz.

Camgymeriad Dan Biggar, gymerodd ormod o amser wrth geisio cicio'r bêl yn glir, arweiniodd at gais y Saracens.

Llwyddodd Charlie Hodgson i ruthro'r gic ac fe ddisgynnodd y bêl yn garedig i Ernst Joubert groesodd y llinell.

Llwyddodd Owen Farrell gyda'r trosgais ac ychwanegodd gic gosb cyn yr egwyl i sicrhau mantais o 16-6.

Yn yr ail hanner, yn dilyn rhediad da gan Shane Williams fe lwyddodd Biggar i ryddhau Ian Gough.

Daeth y cais a'r trosgais a'r Gweilch o fewn tri phwynt ond doedd dim mwy o bwyntiau i ddod.

Caeredin 19-12 Gleision

Image copyright PA
Image caption Tim Visser yn cael cais cynnar i Gaeredin yn erbyn Y Gleision

Fe wnaeth cic yn y munudau olaf sicrhau pwynt bonws i'r Gleision yng Nghaeredin ond y tîm cartref oedd yn fuddugol.

Mae'r ddau dîm yn gyfartal ar frig Grŵp 2.

Daeth buddugoliaeth Caeredin diolch yn bennaf i'w perfformiad yn yr hanner cyntaf.

Yn dilyn toriad gwych gan Nick De Luca fe wnaeth Tim Visser groesi yn y gornel am unig gais y gêm.

Daeth gweddill y pwyntiau i'r tîm cartref o esgid Greig Laidlaw, gan roi mantais o 19-3 ar yr hanner.

Cafodd y Gleision fwy o'r meddiant yn yr ail hanner - ond methodd yr ymwelwyr â chroesi'r llinell.

Yn y diwedd bu'n rhaid dibynnu ar gic gosb o bellter gan Leigh Halfpenny er mwyn sicrhau'r pwynt bonws.

Grŵp 2 Gemau Ennill Cyfartal Colli Pwynt Bonws Cyfanswm
Y Gleision 4 3 0 1 1 13
Caeredin 4 3 0 1 1 13
Gwyddelod yn Llundain 3 1 0 2 3 7
Racing Metro 92 3 0 0 3 3 3
Grŵp 5 Gemau Ennill Cyfartal Colli Pwynt Bonws Cyfanswm
Saracens 4 3 0 1 2 14
Biarritz 4 2 0 2 4 12
Y Gweilch 4 1 1 2 2 8
Treviso 4 1 1 2 0 6

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.