Damwain: Cerddwr yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad â bws yn Abertawe
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y dyn wedi ei achub o dan y bws yn dilyn y gwrthdrawiad ddigwyddodd ar Ffordd Fabian am 10.44am ddydd Llun.
Cafodd 10 o bobl oedd yn teithio ar y bws eu trin am sioc a dywedodd Heddlu De Cymru fod y ffordd wedi bod ynghau am gyfnod i draffig oedd yn teithio i'r ddinas o Jersey Marine.
Roedd y ffordd wedi cael ei hail agor erbyn tua 1:40pm.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol